Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Mehefin 2018
Amser:
09.16 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4853
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Gareth Bennett AC David Melding AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Joyce Watson AC (yn lle Rhianon Passmore AC) Jenny Rathbone AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma Williams, Llywodraeth Cymru Neil Buffin, Llywodraeth Cymru Huw Charles, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ran Rhianon. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 y cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
· Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
· Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
· Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
· asesiad o'r dystiolaeth a drafodwyd yn San Steffan wrth graffu ar y Bil Ffioedd Tenantiaid, a oedd yn nodi cynnydd o 4.2 y cant mewn rhent yn yr Alban pan basiwyd deddfwriaeth gyfatebol o'i gymharu â gostyngiad o 0.7 y cant yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod;
· gwybodaeth yn nodi a yw'r ddarpariaeth yn Atodlen 2, paragraff 3, is-is-baragraff (b) yn ddigonol i ymdrin ag achosion pan fydd landlord/asiantaeth yn torri'r cytundeb hwn, yn enwedig mewn achosion pan fydd myfyrwyr yn sicrhau eiddo fisoedd cyn iddynt symud i mewn i'r eiddo hwnnw ac mae'r cytundeb yn amodol ar waith pellach gan y landlord; a
· gwybodaeth ychwanegol yn nodi a ddylai dirwyon a roddir gan y Llysoedd i'r rhai sy'n torri rhwymedigaethau'r Bil fynd i awdurdodau lleol, fel sy'n digwydd gyda hysbysiadau cosb benodedig.
2.3 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch tyrau o fflatiau yng Nghymru a chytunodd i ymateb i'r llythyr mewn perthynas â sawl mater.
3.2.a Nododd y Pwyllgor farn rhanddeiliaid ar lythyr y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.
3.3.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.